Hosea 6

Y bobl yn esgus troi at Dduw

1“Dewch! Gadewch i ni droi'n ôl at yr Arglwydd.

Fe sydd wedi'n rhwygo'n ddarnau, ond bydd e'n iacháu!
Fe sydd wedi'n hanafu ni, ond bydd e'n gwella'r briwiau!
2Bydd yn rhoi bywyd newydd i ni mewn ychydig;
bydd wedi'n codi ni'n ôl yn fyw mewn dim o bryd.
6:2 mewn ychydig Hebraeg, “ar ôl deuddydd”; mewn dim o bryd Hebraeg, “ar y trydydd dydd”

Cawn fyw yn ei gwmni,
3a'i nabod yn iawn.
Gadewch i ni fwrw iddi i gydnabod yr Arglwydd.
Bydd yn dod allan i'n hachub, mor sicr â bod y wawr yn torri.
Bydd yn dod fel glaw y gaeaf neu gawodydd y gwanwyn i ddyfrio'r tir.”
4O, beth wna i gyda chi, bobl Effraim?
6:4 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae'n aml yn cynrychioli y wlad yn gyfan.

Beth wna i gyda chi, bobl Jwda?
Mae eich ffyddlondeb fel tarth y bore,
neu'r gwlith sy'n diflannu'n gynnar.
5Dyna pam dw i wedi anfon y proffwydi i'ch taro.
Dw i'n mynd i'ch lladd chi fel y dwedais wrth gyhoeddi barn.
Mae'r farn yn siŵr o ddod, fel golau'r wawr.
6Ffyddlondeb sy'n fy mhlesio, nid aberthau! c
Nabod Duw, nid dim ond offrwm i'w losgi.
7Maen nhw wedi sathru fy ymrwymiad fel Adda!
Maen nhw wedi fy mradychu i!
8Mae Gilead yn dref o bobl ddrwg,
ac mae olion traed gwaedlyd yn staen ar ei strydoedd.
9Mae'r urdd o offeiriaid fel gang o ladron,
yn cuddio i ymosod ar bobl –
yn llofruddio ar y ffordd i Sichem.
Maen nhw'n gwneud cymaint o ddrwg!
10Dw i wedi gweld pobl Israel
yn gwneud pethau cwbl ffiaidd!
Mae Effraim yn puteinio –
mae Israel wedi ei llygru'n llwyr!

Petai Israel yn troi cefn ar ei phechod

11Mae cynhaeaf barn yn dod i tithau, Jwda!
Dw i eisiau i'm pobl lwyddo eto;
Copyright information for CYM